Craffu ôl-ddeddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011- i asesu llwyddiannau canfyddedig a chyfyngiadau’r ddeddfwriaeth ac effaith ac effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg o ran gwella a chynyddu hygyrchedd i wasanaethau Cymraeg

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru gan Siarter Frenhinol ac mae’r Gymraeg wedi ei sefydlu'n gadarn yng ngwaith y Cyngor.  Ac wrth wraidd ein cynllun corfforaethol mae cefnogi’r defnydd o'r Gymraeg yn iaith fyw, greadigol a sicrhau amgylchedd lle gall artistiaid ddilyn eu gyrfa yn eu dewis iaith.  Rydym yn hyrwyddwyr cadarnhaol, ymroddedig a llwyddiannus o’r iaith.

Mynnodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ein bod yn parhau i wneud llawer o'r hyn yr oeddem eisoes yn ei wneud.  Ond roedd cael fframwaith cyfreithiol wedi ein gyrru i gyflawni hyd yn oed ragor – yn benodol mae wedi cynyddu dwyieithrwydd yng ngwaith mewnol y Cyngor.  Golyga hyn, er enghraifft, fod gan ein staff erbyn hyn fynediad i holl swyddogaethau Adnoddau Dynol yn y Gymraeg a gweithiwn tuag at gael mewnrwyd lwyr ddwyieithog.  Roedd hefyd yn sbardun inni ganolbwyntio ar ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu’r defnydd ohonynt.  Rydym yn anfon ein hysgrifenwyr allweddol ar gwrs Cymraeg Clir ac ymestyn cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg.  Rydym hefyd wedi recriwtio staff Cymraeg eu hiaith i’n timau adnoddau dynol a TG i gefnogi defnydd y Gymraeg yn fewnol.  Rydym yn ymrwymedig i ddarparu cyfieithiadau o safon.

Ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth, mae amlygrwydd y Gymraeg yn y Cyngor wedi cynyddu. Mae dwyieithrwydd bellach wedi sefydlu’n norm wrth gyfathrebu â'n holl staff a bu cynnydd sylweddol mewn hyfforddiant a hwyluso dwyieithog.

Gweithio mewn partneriaeth

Portffolio Celfyddydol Cymru – y sefydliadau pwysig a ariannwn yn rheolaidd – yw ein prif bartneriaid wrth ddarparu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru.  Mynnwn fod gan bob un ohonynt gynllun Cymraeg sy’n amlinellu sut y gweithiant tuag at ddiwallu’r ddeddfwriaeth.  Mae hwn yn amod iddynt gael arian gennym.

Un o'n nodau corfforaethol yw gweld yr holl leoliadau a ariannwn yn darparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol.  Ystyr hyn yw cael lleoedd lle y gall cymunedau ac ymwelwyr ddisgwyl gofyn am eu tocynnau, archebu diod wrth y bar a mwynhau eu hadloniant drwy gyfrwng y Gymraeg.  Anelwn hefyd at allu cynnig gweithgareddau cyfranogol yn newis iaith y cyfranogwyr.

Weithiau mae materion capasiti ac adnoddau’n cyfyngu ar ein gallu i gyflawni pob dim y dymunwn ei gyflawni. Ond mae’r posibiliadau yno. Credwn yn gryf y dylem wneud cyfraniad cadarnhaol at wneud y Gymraeg yn iaith fyw drwy ei chael yn flaenoriaeth allweddol i'n gwaith ar draws holl feysydd y celfyddydau.

 

Defnyddio ein dylanwad

A ninnau’n stiwardiaid arian cyhoeddus, rydym yn ymwybodol bod gennym swyddogaeth borthgadw o ran annog datblygiadau newydd a monitro effeithiolrwydd ein gweithgarwch sydd eisoes ar waith.  Rydym yn tywys a gwarchod. Mae gennym gyfrifoldeb penodol i ymddwyn felly yng nghyswllt y Gymraeg.  Cawn ryw 1,500 o geisiadau am arian bob blwyddyn. Cymerwn ran weithredol yn ein gwaith craffu ac asesu parthed cynlluniau Cymraeg ymgeiswyr.  A mynnwn fod deunydd hyrwyddo dwyieithog ar gyfer popeth a gaiff ein harian.  Fodd bynnag, nid mater cydymffurfio â’r ddeddf yn unig yw hyn inni.  Dathlwn, hybwn ac amddiffynnwn yr iaith am resymau diwylliannol, cymdeithasol a chreadigol.  Felly ymdrechwn ein gorau glas i weld y tu hwnt i'r rheolau a'r rheoliadau.  Rydym yn eiriol dros y Gymraeg nid yn unig oherwydd llythyren y ddeddf ond hefyd oblegid ei hysbryd.  Cymhwysir yr egwyddor hon ar draws ein gwaith.

A ninnau’n gorff cyhoeddus, daeth i’n rhan nifer o fanteision ymarferol yn sgil y safonau.  Ond roedd hefyd gost ymhlyg wrthynt (yn enwedig i sefydliadau llai, megis ni).  Mae cyfieithu’n ddrud ac, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y staff a all weithio drwy’r Gymraeg, ni ddisgwyliwn iddynt gyfieithu dogfennau yn ogystal â’u gwaith arferol. O ganlyniad gall fod oedi wrth aros i ddogfennau gael eu cyfieithu.  Gallai hyn gael yr effaith o’n gwneud yn llai parod i gyhoeddi yn y dyfodol.

Yn ôl ein profiad hefyd gwelwn fod nifer o sefydliadau llai ac unigolion yn dibynnu ar Google Translate am ddarnau llai o destun a chanlyniad hyn yn aml yw cynnwys gwe/marchnata mewn Cymraeg gwallus ac annealladwy.  Mae pobl yn ceisio ufuddhau i ysbryd y ddeddf gan ddefnyddio atebion rhwydd a rhad ar y we i gyflwyno gwybodaeth i’r cyhoedd yn ddwyieithog.  Ond ar hyn o bryd mae safon y ddarpariaeth gyfieithu’n ddiffygiol.  Dylai defnydd o’r Gymraeg gan gwmnïau mawrion y byd technegol fod yn flaenoriaeth i’w chyflawni ond nid yw hynny’n rhywbeth y gallem ni fynd i’r afael ag ef ar ein pen ein hunain.  Yn y cyfamser dylid codi ymwybyddiaeth o’r angen am gyfieithu da sy’n cyfleu hanfod y neges.  Ar hyn o bryd ni all Google Translate ddarparu’r fath beth.

Ond ar y cyfan, cododd y safonau broffil yr iaith mewn ffordd gadarnhaol.  Mae eu gorfodaeth ar gyrff cyhoeddus i gadw at y safonau wedi arwain at godi’r disgwyliadau - yn enwedig o ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Ond hyn sy'n llai clir: o ble daw'r ysgogiad datblygiadol?  Sef y rhaglenni arloesol o waith sy’n ceisio ffyrdd dychmyglon o annog a chymell pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Ar hyn o bryd, teimlir mai cydymffurfiaeth yw popeth.  O symud ymlaen, byddai’n dda gweld rhagor o bwyslais ar ddatblygu'r defnydd o'r iaith mewn sefyllfaoedd a gweithgareddau bob dydd.

Profa ein data ein hunain na chafodd y safonau nemor ddim effaith neu ychydig iawn o effaith ar gynyddu a gwella hygyrchedd i weithgareddau celfyddydol yn y Gymraeg. Os rhywbeth, lleihaodd nifer y ceisiadau a gawn yn y Gymraeg neu am weithgareddau Cymraeg.  Mae hyn yn bryder inni a hoffem fynd i’r afael â’r broblem drwy ein cynllun corfforaethol newydd.  Rydym am weld rhagor o ddigwyddiadau Cymraeg – yn enwedig i bobl ifainc a ddysgodd y Gymraeg yn yr ysgolion Cymraeg ond sy’n cael trafferth wedyn i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.  Mae’n bwysig inni ddefnyddio fframweithiau deddfwriaethol a phartneriaethau cyhoeddus i gefnogi’r Gymraeg ac annog defnydd ohoni yn hytrach na’i llesteirio.

I asesu a oedd y fframwaith deddfwriaethol yn cefnogi hyrwyddo'r Gymraeg a'r defnydd ohoni neu gyfyngu ar hynny.

Ar y dechrau esgorodd y ddeddfwriaeth ar sgyrsiau digon heriol.  Amlygodd fylchau yn ein gallu a’n hadnoddau.  Ond, ar ddiwedd y dydd, mae’n fater o newid teimladau a pherswadio pobl.  Ar y cyfan mae’r portffolio o sefydliadau a ariannwn yn cydnabod yn glir yr angen i annog a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.  Yn y celfyddydau cyfranogol, mae galw cynyddol am ymarferwyr Cymraeg i arwain gweithdai a dosbarthiadau.  Ymddengys fod rhagor o eisiau yn y sector - yn enwedig ymhlith y rhai sy'n gweithio gyda phobl ifainc - i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg mewn ffordd ymarferol ac anacademaidd.

Wrth inni symud y tu hwnt i'r cyfnod cydymffurfio cychwynnol, byddai'n dda gweld rhagor o systemau o gefnogaeth, cyngor, enghreifftiau a mentoriaid a fydd ar gael i gynorthwyo'r rhai sydd angen y pethau hyn.  Gallai fframwaith cyfreithiol presennol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ddarparu dull gwell o integreiddio gwaith cyrff cyhoeddus wrth hyrwyddo'r Gymraeg a byddai'n dda gweld y ddeddf yn cael ei defnyddio i'w llawn botensial.

Safbwynt rhyngwladol - casglu tystiolaeth am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hyrwyddo cynllunio ym maes ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill.

Dim sylw.